Local Priorities Speeding Message
|
||
|
|
||
|
||
|
Neges Goryrru Blaenoriaethau Lleol |
||
|
Annwyl{FIRST_NAME} , Roeddwn i eisiau rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi ynglŷn â goryrru, rhywbeth y mae pobl o gwmpas eich ardal wedi'i amlygu fel mater o bryder yn yr arolwg blaenoriaeth. 👮♀️ Ar fore 29/09/26 daeth y SCCH lleol ynghyd â'r gwasanaeth tân, swyddogion traffig ac ymateb i gwblhau Ymgyrch Atal (ymgyrch cyflymder). Cynhaliwyd yr ymgyrch am oddeutu awr a hanner, ac o fewn yr amser hwn, gwelwyd 14 o gerbydau yn mynd dros y terfyn 20mya, rhoddwyd cyngor i 12 o'r ceir hyn gan y gwasanaeth tân a gwylion nhw fideo addysgol ar oryrru. Rhoddwyd adroddiadau troseddau traffig i 2 allan o'r 14 cerbyd oherwydd cyflymder gyrru o 37mya a 42mya ❌ Os byddwch chi byth yn profi'r broblem hon neu os oes gennych chi wybodaeth am ddigwyddiad, rhowch wybod amdano gan ddefnyddio ein hoffer adrodd ar-lein yn https://www.gwent.police.uk , siaradwch â gweithredwr yn Ystafell Gyfathrebu’r Heddlu drwy ein sgwrs we ar-lein neu ffoniwch y rhif di-argyfwng 101. Fel arall, gallwch aros 100 y cant yn anhysbys drwy gysylltu â'r elusen annibynnol Crimestoppers ar 0800 555 111 neu drwy eu ffurflen ar-lein na ellir ei holrhain yn crimestoppers-uk.org . Gan nad ydych wedi cyfrannu at yr arolwg blaenoriaeth yn ddiweddar, efallai nad ydym yn ymwybodol o faterion yr hoffech i ni ganolbwyntio arnynt. Cymerwch ychydig funudau i ddweud eich dweud yn ddiogel ac yn breifat gan ddefnyddio'r botwm isod, bydd hyn yn golygu y gallwn ganolbwyntio ar bethau sy'n bwysig i chi. {SURVEY [PRIORITY]} Efallai yr hoffech chi hefyd roi sgôr i'r neges hon i roi gwybod i ni a oedd y wybodaeth hon yn ddefnyddiol ai peidio, neu ddefnyddio'r system i newid pa faterion rydyn ni'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi amdanynt. Gallwch chi wneud y pethau hyn yn gyflym ac yn hawdd gan ddefnyddio'r botymau isod. | ||
Reply to this message | ||
|
|






